Cwcis

Er mwyn casglu gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio'r wefan hon, rydym yn defnyddio cwcis.
Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwasanaethau a gwneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio gystal â phosibl.

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ychwanegol. Rydych chi wedi gwrthod yr holl gwcis ychwanegol. Gallwch chi newid eich dewisiadau o ran cwcis ar unrhyw adeg.

Skip to main content

Nid yw’r wefan hon yn cefnogi eich porwr mwyach. Gallwch ddiweddaru eich porwr i’r fersiwn ddiweddaraf.

Arolygon SYG

Preifatrwydd a diogelu data

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n:

  • cydnabod eich bod yn rhannu gwybodaeth bersonol â ni a'i thrin yn gyfrinachol, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
  • defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion ystadegol yn unig, neu i'n helpu i gynnal ein harolygon
  • sicrhau na chaiff unrhyw beth ei gyhoeddi sy'n datgelu pwy yw unigolyn, cartref neu fusnes
  • ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau
  • darparu gwybodaeth arolwg i adrannau eraill y Llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwys at ddibenion ystadegol yn unig, gan gydymffurfio â'r un safonau diogelwch rydym yn eu dilyn (ac yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data, y Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau)
  • sicrhau bod ein staff yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau i ddiogelu eich gwybodaeth gyfrinachol
  • sicrhau bod ein systemau a'n hadeiladau yn ddiogel

Mynediad at wybodaeth

Rydyn ni'n cyflogi darparwyr trydydd parti i'n helpu i gasglu data arolygon. Mae'r trydydd partïon hyn yn gweithio yn unol â'n cyfarwyddyd ni, ac yn cael eu defnyddio'n llwyr fel darparwyr gwasanaethau technegol fel prosesydd data. Rydyn ni'n cadw eich data ac yn rheoli sut y cânt eu defnyddio. Y trydydd partïon rydyn ni'n gweithio gyda nhw yw:

  • Google Cloud Platform service
  • GOV.UK Notify

Rhagor o wybodaeth

Os bydd gennych chi gwestiwn am y ffordd rydyn ni'n prosesu eich data personol, neu os byddwch chi am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data.